Cymraeg Morgannwg
Map

Dilyn Afon Ogwr

Gwybodaeth a Gwaith Ychwanegol

Geirfa Allweddol (yn nhrefn y wyddor)
Aber - Bach (Fach) - Blaen(au) - Bro (Y Fro) - Bryn - Bwlch - Cae - Castell - Coch (Goch) - Coed(en) - Cwm - Cymmer -  Du (Ddu) - Ffynnon - Glan  -  Glyn - Gwyn (Wen) - Heol - Llan - Mawr (Fawr) - Melin - Merthyr - Moel - Môr - Mynydd - Nant - Pant - Pen - Rhyd  .................

Rhai Cwestiynau
Pam mae rhan fwyaf o enwau llefydd yr ardal yn y Gymraeg?
Pam bu’r afon mor bwysig i fywyd yr ardal / pobl / anifeiliaid dros y canrifoedd?
Ydy hi mor bwysig nawr ag y bu?
O ble daeth yr enw Ogwr / Ogwy / Ogmore? (Eog, Gwy, Mawr, . . .)

Crwydro
Dilyn yr afon yr holl ffordd o’i ffynhonnell i’r môr (taith bws).
Cerdded ychydig o ffordd ar hyd lan yr afon (nid yr holl ffordd, yn amlwg)
Oedi mewn safleoedd allweddol (a diogel) ar hyd y lan; e.e.: - Ar ben mynydd Bwlch-y-Clawdd; Pentre Nantymoel; Pentre Melin-Ifan-Ddu; Penyfai (Pont yr M4); Tref Penybont (Yr Hen Bont); Merthyrmawr (Pont y Defaid neu y Bont Grog); Castell Ogwr (rhyd, meini hynafol); Aberogwr (Glan y Môr).

Gweithgareddau ar y daith
Gwylio / disgrifio / tynnu llun o siap y cwm ym mhob safle, e.e.:- cul, creigiog, llydan, serth, isel, . . .
Gwylio / disgrifio / tynnu llun o’r ardal wrth ymyl yr afon ym mhob safle, e.e.:- gwledig, trefol, diwydiannol, coedwig, caeau, . . .
Gwylio / disgrifio / tynnu llun o ffyrdd gwahanol o groesi’r afon, e.e.: pont garreg, meini, rhyd.
Gwylio / disgrifio / tynnu llun o gwrs yr afon ym mhob safle, e.e.:- syth, troellog, dwfn,  . . .
Mesur lled / llif (cyflymder) yr afon ym mhob safle.

Gweithgareddau ar ôl y daith
Dewis un pont a sgrifennu hunangofiant.
Sgrifennu sgwrs rhwng y ddwy bont ym Mhenyfai (Pont enfawr yr M4 a phont fach garreg hynafol sy odani)
Gwrando ar ddarn o gerddoriaeth addas (e.e. Y Brithyll, Nant-y-Mynydd Groyw Loyw) wedyn cyfansoddi darn yn defnyddio offerynnau taro.

Cystadleuaeth rhyng-grwpiau yn y dosbarth
Rhoi map O.S. i bob grŵp.
Grŵp 1: Dod o hyd, a rhestru enwau lleoedd sy a’r gair pont/bont yn yr enw Grŵp 2: Dod o hyd, a rhestru enwau lleoedd sy a’r gair aber yn yr enw.  Grŵp 3: Dod o hyd, a rhestru enwau lleoedd sy a’r gair bryn/mynydd yn yr enw.
Grŵp 4: Dod o hyd, a rhestru enwau lleoedd sy a’r gair llan yn yr enw.  Grŵp 5: Dod o hyd, a rhestru enwau lleoedd sy a’r gair cwm/pant/glyn yn yr enw Y grŵp sy â’r rhestr hiraf ar ôl 10 munud sy’n ennill.

Pobl Gwadd
Gofyn i gynrychiolydd o’r bwrdd dŵr neu gymdeithas y pysgotwyr neu hanesydd lleol i annerch y plant.

Awgrymiadau ar gyfer plant iau ( babanod o bosib )
I beth fyddwn ni’n defnyddio dŵr?
Didoli casgliad o ddail yn ôl siâp, maint, patrwm yr ymyl, teimlad.
Sôn am fedyddio, holi’r plant ynghylch hyn.
Dod a physgodyn mewn i’r dosbarth, trafod y nodweddion a phwrpas pob              rhan o’r corff – llygad, esgyll, cen, siâp, cynffon, ceg. Creu pysgodyn dychmygol.
Cyfri nifer o gerbydau sy’n croesi’r hen bont o dan y draffordd o fewn amser penodol.
Y broses o gneifio, golchi, cribo a nyddu gwlân. I beth fyddwn ni’n defnyddio gwlân.
Sgwrs rhwng pysgodyn a gwylan wrth i’r pysgodyn gyrraedd diwedd taith yr afon yn Aberogwr.
Llunio cyfres o gwestiynau e.e
O ble wyt ti wedi dod?
Beth welaist ti ar y ffordd?
Oes creaduriaid eraill yn byw yn yr afon?
Pa mor bell wyt ti wedi teithio?  

 


Gweithgareddau’n gysylltiedig â’r tribannau
1. Ceisiwch ddarganfod pam mae’r enw “twll y clo” wedi’i rhoi ar y llecyn sy’n agos i’r lle mae’r Ogwr yn tarddu?

2.          Cysylltwch enwau’r coed a’r disgrifiadau


derwen

Mae hon yn brathu / pigo’n boenus

cerddinen

Mae hon yn gallu bod yn gopr hefyd

collen

Mesen yw enw ffrwyth y goeden yma

draenen ddu

Mae hon yn blingad o aeron coch

ffawydden

Mae cnau hon mewn siocled yn flasus

bedwen

Weithiau mae’r rhisgl yn sgleinio’n arian

 

3. Pryd agorwyd capel Paran?
Beth yw ystyr y gair paran ?
Pa ddefnydd a wneir o’r afon gan y capel?
Pam oedd hyn yn digwydd?
Beth yw arwyddocâd bedydd?
Ceisiwch ddarganfod sut mae crefyddau / credoau yn derbyn pobl yn aelodau neu rhoi’r ymdeimlad eu bod nhw’n perthyn.
I beth mae’r capel yn cael ei ddefnyddio nawr?
Pa adeiladau eraill oedd yn gwneud defnydd o’r afon ym mhentref Melin Ifan Ddu?

4.          Pam taw ymwelydd Haf yn unig yw’r wennol?
Chwiliwch am ragor o adar sy’n ymweld â’r wlad hon yn ystod yr Haf?
O ble ddaw’r adar yma atom?
I ble fyddan nhw’n hedfan yn y Gaeaf?
Pa mor bell dybiwch chi all gwennol deithio mewn diwrnod?
Beth sydd mor rhyfeddol am wennoliaid sy’n dychwelyd i’r wlad hon bob Haf?

5. Ail drefnwch y llythrennau i ffurfio enwau llednentydd yr Ogwr a rhai o’r mannau nodedig ar ei glannau

rawg……………………………………………,           liflyn...............................................

milain nedd fu……………………………………     bonypent…………………………………….. 

eni wen……………………………………………….     fyniape……………………………………….,

lan y tomen……………………………………….     mynnybren………………………………….

6. Beth yw pwrpas y tyllau a welir yn y bont?
Pa mor hen yw’r bont?
Pwy adeiladodd y bont?
Faint o waith cynnal a chadw sydd i’r bont?
( Efallai bod y Cyngor Sir yn gwybod yr ateb i’r cwestiwn yma )

7. Chwiliwch ar fapiau am enwau eraill ar y pyllau sydd i’w cael ar hyd yr afon.
Esboniwch ystyr neu arwyddocâd pump o’r enwau.
8. Mae cynnydd aruthrol wedi bod yn y drafnidiaeth sy’n croesi’r afon ar y draffordd ers dyddiau’r ceffyl a chart ‘slawer dydd.
Oes syniad gyda chi o’r nifer o gerbydau sy’n gwibio dros yr afon ar gyfartaledd bob munud ar yr M4?
Ble fyddech chi’n chwilio er mwyn cael ateb i’r cwestiwn uchod?
Sawl cerbyd mewn diwrnod?
Sawl cerbyd mewn blwyddyn?

9. Pwy oedd yr olaf i fyw yn y castell?
Pwy sy’n berchen ar y castell nawr?
Pam adeiladu’r castell yma yn y lle cyntaf?

10. Beth yw’r enw a rhoir ar y man lle mae afon yn llifo i’r môr?
Enwch bump lle arall yng Nghymru sy’n cychwyn a’r enw yma?
Oes llefydd tu allan i Gymru yn dechrau a’r enw hwn, ac os oes enwch rhai ohonyn nhw?
Sut mae twyni tywod yn cael eu ffurfio?
Beth yw gwerth / pwrpas twyni tywod i’r tirwedd neu’r amgylchfyd o gwmpas yr arfordir?
Beth sydd angen gwneud er mwyn gwarchod a diogelu’r twyni?


Cymraeg MorgannwgMentrau