Trawsgrifiad / Transcription
Minnie Aitken

O'ch chi'n parchu pawb a pawb yn parchu chi. Os gwelech chi plisman, o'ch chi'n redeg. Odd ofon arnoch chi. Ond alla i ddweud hyn, bo fi, ch'mod, yn ddyledus iawn i'r Eglwys yn Jerusalem Pontrhydyfen. Achos dyna le des i adnabod Iesu Grist yn iawn - odd yn yr eglwys. Ac odd y gweinidog a'r blaenoried, ch'mod, yr amser 'na, o'n nhw'n gofyn i chi i addo na fyddech chi byth yn yfed - alcohol a pethe felni. A mi addawes i o fla'n Duw - a dwi ddim wedi cyffwrdd a dim alcohol, dim ddar ni. Mae e'n bwysig iawn i fi bo' fi wedi addo, a unwaith i chi'n addo, i fi, ma' raid i chi cadw'r addewid, yn enwedig o fla'n Duw. Addewes i fe ar y Beibl a wy'n gobeitho ga'i fynd i'r bedd yn cadw fy addewid. Mae e'n bwysig iawn, wy'n meddwl. Erbyn mis Mehefin bydda i'n naw deg naw o'd - a fi yw'r hyna' ar bob ochor o'r teulu sy' wedi byw, gyda'r holl berthnase ch'mod, ond wrth gwrs ma' pethe yn ffaelu 'da fi nawr. Wy'n gobeitho caf i weld y nhad a mam hefyd, a'm perthnase i gyd, ch'mod. Ond ma' raid cal ffydd cryf iawn, ch'mod, i gredu hynny, dwi'n credu.

Joan Edwards



Odd mam a nhad o'r ardal, o Taibach, ac o Gibea yn Taibach. Capel yr Annibynwyr, o'n nhw'n cal'u codi yn y capel, chi'n gweld. Odd digon o bobl yn siarad Cymrag - odd Capel y Dyffryn, Capel Gibeon - Methodistiaid yn y Dyffryn. Ac yna yn Smyrna - y Bedyddwyr, o'n nhw'n siarad Cymrag, i chi'n gweld. Ond yn Taibach, odd na capel Sisneg - y Wesleaid. Ond bobl o Cernyw odd yn byw 'na ran amla, y teuluodd wedi dod hanner canrif cyn 'ny o Cernyw i fyw yn Taibach i weitho yn y lofa, chi'n gweld. A'u henwe odd Penhale, Gubb, enwe fel 'na, chi'n gweld. Odd y teuluodd yn cadw at 'i gilydd, yndo'n nhw, a nid dim ond y teuluodd, ond yr ardal, yndife, yn helpu os odd rwpeth yn bod. Odd dim digon o plant yn siarad Cymrag i whare yn Gymrag mas tu fas i'r ty, ondife, o'n ni'n whare scotch a skipping a popeth felna, ond yn Sisneg i gyd, ondife. Ac on ni'n whare mas ar y strydodd yn y nos pan o'n ni'n blant. Os o'ch chi mofyn rwpeth i fyta, o'n ni'n mynd i ty mam-gu i gal rwpeth i fyta - yn ystod y gm, wrth gwrs...
Alwyn Samuel

Cwmafan yw hwn gyda llaw, nid Cwmavon. Ma' lot fawr o bobl yn lico 'sgrifennu fe  C -w- m- a- v- o- n, chi'mod...
Wel, ma'r afon jyst lawr fan hyn, a'r afan, afan, yw enw'r afon, nace 'avon'. A ma'r un peth gyda 'Aberavon' wedyn i am Aberafan, chi'n gweld, ond Cwm Afan yw hwn a ma' Pwllyglaw yn un o'r suburbs. Ma' nhw'n gweud wrtho i odd na ryw bwll yn yr afon just lawr yr hewl fan hyn, a dyna le, o fanna, dath yr enw mae'n debyg, mai pwll gloyw odd enw'r patchyn hyn, o achos y pwll yn yr afon 'ma. Wel mae e' wedi dirywio i Bwllyglaw erbyn hyn. Sdim dowt ma nhw wedi gweud pwll glaw, nid pwll gloyw, myn yffarn i, Pwllyglaw - ma' gormod o law 'ma.
Odd mamgu'n byw, allwch chi weld o ffenest y ffrynt 'ma, allwch chi weld y patchyn le odd mamgu yn byw lan ar ochor y mynydd ch'mod, fanna.
Wedyn i, odd Moira, y wraig, odd hi'n gwitho yn y Co-op fan hyn, just lan yr hewl, a fuodd hi 'na am flynddye. A wetyn i, o'n ni'n nabod pob copa walltog odd yn byw yn Pwll y Glaw, a nabod nhw'n dda. Na beth od, o'n i'n siarad rywun pwy ddiwrnod - ne' o'n i'n whilia gyta nhw, fel sy ni'n gweud, ondife - bod y strydodd yn Cwmafan ac yn Pontrhydyfen, le ma'r un teluoedd wedi bod yn byw yn y tai 'ma ers cenedlaethe. Nawr yn sydyn, ma' dynon o Essex o Sheffield, o Manchester, Lerpwl, Birmingham, o bobman wedi dod 'ma. Pan o'n i'n grwtyn fan hyn yn Cwmafan, odd pobl y dre yn tueddu i edrych lawr arno ni, ch'mod - 'Oh you're from Cwmavon is it? How did you come - stagecoach or pony express?' Ch'mod. 'Which cave do you live in?' Y math 'na o beth, ch'wel. Ond erbyn heddi, diawl, mae pawb eisie dod i Cwm i fyw - achos mae wedi dod nawr yn ffasiynol iawn - 'sneb isie byw yn y dre. Dim ond dod i lefydd fel hyn - Baglan, a Bryn - ma' tai lan yn y Bryn werth, yn mynd am chwarter miliwn chi'mod. Mae e'n ryfedd. Ond 'na fe...



Menna a Gwen Thomas

MT Menna Thomas wy'i, yn byw yn Dan y Ffynnon ond geso i ngwnnu yn, ar Mynydd Bychan yn Nghwm Afan yn mil naw dau pedwar - a 'ma hwnna'n neud fi'n wyth deg pump. A Gwen Thomas yw'n whar.
GT Gwenville Elizabeth Thomas, ar l y ddwy famgu, un o Resolfen a un o Fryncoch, Plant Blaen Rhondda. Ges i ngeni nineteen seventeen, y ryfel cynta', bron ar y diwedd, a fi'n naw deg dau nawr, diwedd y mish.
MT Brioton ni dau gefnder.
GT Y Reeses o'n ni
MT Ie, y Reeses o'n ni.
GT 8 o blant, mam yn gwitho'n galed. A'r capel odd yn bywyd ni yn blant - achos o'n ni'n mynd i'r capel yn ifanc iawn
MT O'n, o'n.
GT A odd dadi'n pregethu, a odd e'n ddiacon yn Cyfyrog a getho i ngwnnu ar 'i garffed e' nes bo fi'n bum mlwydd o'd yn y set fawr - ond 'dyw hwnna ddim wedi neud fi'n berson Ha, ha, ha
MT Ma' hanes diddorol i'r pentre, ch'mod. Odd yr achos wedi dechre' mewn tafarn - y Rock 
GT Y Rock and Fountain, ife
MT Y Rock and Fountain, ie
GT Yn Maes, yn Betws, wrth bo' chi'n dod lawr i Bontrhydyfen. A odd hen datcu mam, odd e'n weinidog pwysig iawn - odd e'n yn pregethu lan yn Lerpwl. Odd e'n dod draw i'r Rock ar gefen ceffyl a fe odd y dyn cynta' bregethodd yn y capel - yr hen Gapel Newydd, nawr 'te - ac odd y capel, y lle, yn llawn a odd cor ardderchog. Lot fawr o blant 'da pawb pyrny. Pob un a teuluodd mawr 'da nhw, ch'mod, a teuluodd neis hefyd, ch'mod, ond o'dd e'?
MT Odd, odd hi'n neis i fyw yn yr ardal hyn, a gweud y gwir. I gymharu, os ych chi'n cymahru a cymdeithas heddi, a beth i'ch chi'n clywed - triniaeth 'ma plant yn cal nawr. Chi braidd yn gallu cretu bod shwt beth yn bod, ch'mod, achos odd pawb yn dirion wrth 'u plant, ond o'n nhw? Cwnnu'r plant yn iawn, ch'mod. A parch iddi'u rhieni. A odd y wraig wastad parch i'r g?r. Odd y g?r, odd yn dod gynta'. Gofalwch am y'ch tad. Fe odd bia'r gater, ch'mod, wrth ochor y tn, ife. A ch'mod, gofalu am i fwyd e'. Ac wrth gwrs, colliers o'n nhw, yn dod a batho o fla'n y tan, ond o'n nhw. Odd nhad yn gollier, a odd Gwenefyn, y mab hena, collier odd e' hefyd, chi'n gweld. So odd raid cal d?r wedi'i dwymo 'te, o fla'n y tn bob nos, ondife. A wy'n cofio nhad, cofio fel odd e'n wmolch, ch'mo, a dyn bach odd e, fel ti'n gwbod, o faint yndyfe, a odd e'n cal 'i fwyd wetyn i. A odd arferiad, odd e'n cwnnu 'i go's lan yn erbyn y mantel piece, i gysgu damed bach. A wedi i fe gal 'i gwsg a wmolch wetyn i, bant a fe naille i'r capel - i'r festri odd e'n mynd pry'ny - i'r cwrdd gweddi nos Lun, a nos Iau wetyn i, y diaconied, odd yn cwrdd nos Iau
GT Yn l beth wy'n diall, odd datcu wedi cario dadi i withio dan ddaear, 9 mlwydd o'd, odd e'n cario fe ar 'i gefen, a wetyn i lan ar ochr y mynydd. Gwaith glo, odd y cwm i gyd odd hwn. Tycs, anialwch odd hwn cyn dod i fyw ma.
Dim ysgol, gas 'e flwyddyn. Odd dadi'n scoler naturiol a odd y pregethwr da, odd e moyn doti fe yn Capel Rock i fynd i'r coleg. Ond odd un dyn safodd yn 'i erbyn, odd e'n perthyn i dadi 'fyd. Achos bo' mam a phedwar o blant, odd e' ddim meddwl bo hi'n iawn i dadi fynd i'r coleg. Felly collodd e'r cyfle 'na ta beth. Odd e'n pregethu ym mhob man. A mynd nos Satwrn. Dim car 'da fe, ch'wel, odd e'n cer'ed lot dychrynllyd. Odd e'n cael carde i'r t?. Ti'n cofio? 'Mr Rees, byddwch chi'n cysgu 'da Mrs Davies, byddwch chi'n cysgu 'da Mrs Davies nos Sadwrn.' Wel, i gysgodd e' 'da menywod dychrynllyd rownd y lle.. 






Stanley Jones