Cymraeg Morgannwg
Map

Rhondda Cynon Taf 

 

Codi ymwybyddiaeth pobl leol o'r ffaith bod y bont ym Mhontypridd yn 250 mlwydd oed a'r Anthem Genedlaethol yn 150 mlwydd oed yn 2006. Datblygu gweithgareddau yn seiliedig ar y 2 ddigwyddiad hanesyddol i godi eu balchder nhw o fod yn Gymry Cymraeg a chynyddu eu hawydd i ddefnyddio'r iaith o ddydd i ddydd.

 

 

Fideo Cân Y Bont > Fideo

 

Hoffwn ddiolch i Ysgol Pen-rhys, Ysgol Tylorstown, Ysgol Gymraeg Llyn-y-Forwyn, Ysgol Gymraeg Bodringallt, Ysgol Gymraeg Bronllwyn ac wrth gwrs mudiad ‘Playing Free’ am fod yn rhan o’r prosiect yma. Pleser oedd gweithio gyda phob un.

 

Fideo Y Bont

Yn 2006 mae Anthem Genedlaethol Cymru yn 150 mlwydd oed a’r bont ym Mhontypridd yn 250 mlwydd oed. I ddathlu fe ddaeth Swyddog Menter Iaith, Swyddog Treftadaeth a chriw o Ganolfan Rhys ym Mhen-rhys at ei gilydd i weithio ar un prosiect yn ardal Rhondda Cynon Taf. Penderfynwyd gweithio gyda phlant yr ysgolion lleol er mwyn hyrwyddo’r dathliadau.

Mae’r prosiect yn cynnwys gweithio gyda phum ysgol leol, tair ysgol Gymraeg a dwy ysgol Saesneg er mwyn ysgrifennu cân am y bont ym Mhontypridd. Trwy wneud y prosiect yma mae’r plant yn cael cyfle i ddysgu a chofio am Anthem Genedlaethol Cymru a’r bont ym Mhontypridd.

 

 

Amcan

Codi ymwybyddiaeth pobl leol o'r ffaith bod y bont ym Mhontypridd yn 250 mlwydd oed yn 2006 a'r Anthem Genedlaethol yn 150 mlwydd oed yn 2006. Wrth godi ymwybyddiaeth y bobl leol am yr hanes pwysig yma, hoffwn fod yn codi eu balchder nhw o fod yn Gymry Cymraeg gan obeithio y byddant yn fwy tebygol o ddefnyddio'r iaith o ddydd i ddydd.

Rydw i wedi gwneud ymholiadau er mwyn cael nwyddau i ddathlu'r ddau ddigwyddiad yn Eisteddfod Abertawe 2006. Mae angen i mi drefnu cyfarfod arall gyda Steff i siarad am y nwyddau.

Gweithdai hanner tymor Hydref 2005

Ar ddydd Llun Hydref y 24ain fe deithies i Rondda Cynon Taf er mwyn gwneud gweithdy gyda chlwb carco Bronllwyn yn y bore a Llanhari yn y prynhawn.
Ar ddydd Mawrth fe wnes i ymweld ag Abercynon a Rhydfelen.

Bwriad y gweithdy oedd codi ymwybyddiaeth y plant bod y bont ym Mhontypridd yn dathlu 250 o flynyddoedd yn 2006. I ddechrau'r gweithdy roeddwn yn cael sgwrs gyda'r plant i siarad am y wahanol fathau o bontydd sydd ym Mhontypridd. Yna roedd y plant yn hel syniadau ar gyfer adeiladu pont eu hun allan o ddeunyddiau celf a chrefft. Wedi i'r grwpiau benderfynu ar syniad redden yn mynd ati i adeiladu.

Roedd pob gweithdy tua dwy awr o hyd. Roedd yna tua 4 plentyn ym Mronllwyn, 16 yn Llanhari, 20 yn Abercynon a 15 yn Rhydfelen. Teimlaf fod y gweithdy yn llwyddiannus iawn.

 



 

 

 

TARDDIAD 'HEN WLAD FY NHADAU'


Ar ddiwrnod o Ionawr yn y flwyddyn 1856, cerddai Evan James, y gwehydd o Bontypridd ar lannau'r afon Rhondda, ddim yn bell o'r fan lle cydlifau'r afonydd Taf a'r Rhondda. Efallai ei fod yn meddwl am y llythyr a dderbyniodd oddi wrth ei frawd yn yr Amerig yn gwahodd Evan i fynd yno ato. Aeth i feddwl am ei gartrefwlad ac yn fuan roedd yn ôl yn ei fwthyn yn creu cân o foliant i Gymru.

O Sir Aberteifi y daeth teulu Evan yn wreiddiol ond ganwyd ef yng Nghaerffili ac fel bardd fe'i adnabuwyd fel Ieuan ap Iago.

Yn hwyrach yr un diwrnod eisteddodd ei fab, James James, wrth ei delyn i greu ton addas i'r geiriau. Ysgrifennodd James y geiriau a'r don ar ddarn o bapur ac mae hwn ar gael heddiw yn y Llyfrgell Genedlaethol yn Aberystwyth. Ar y pryd `Glan Rhondda' oedd enw'r gan fel y dengys y copi hwn.. Canwyd y gân am y tro cyntaf ychydig wythnosau yn ddiweddarach ym Maesteg.

Yn 1858 enillodd Thomas Llywellyn, Llywellyn Alaw o Aberdâr wobr am gasgliad o ganeuon yn Eisteddfod Genedlaethol Llangollen. Roedd y gan `Glan Rhondda' yn un o'r rhain wedi ei newid dipyn gan Llywelyn Alaw a'i ail enwi `Hen Wlad fy Nhadau'.

Yn 1930, datguddiwyd Cofgolofn Genedlaethol i Evan a James ym Mharc Ynys-angharad ym Mhontypridd. Mae'r gofgolofn yn cynrychioli barddoniaeth a miwsig. Ar y gwaelod mae plac pres o'r ddau ddyn. Gwaith Sir Goscombe John ydyw ac yn y seremoni datguddio chwaraewyd yr anthem gan Taliesin - mab James James ar ei delyn. Mae'r delyn yma yn cael ei chanu o hyd gan blant Ysgol Gyfun Rhydfelen.

Claddwyd Evan James a'i wraig Elizabeth yng nghapel Carmel gerllaw eu cartref. Bu James farw yn 1902 ac fe'i claddwyd yn Aberdâr.

Mae capel Carmel yn awr wedi ei ddistrywio ac ar ddydd Gŵyl Dewi 1975 cynhaliwyd oedfa ddiolchgarwch ac ailgysegriad ym Mharc Ynys-angharad i arwyddo yr ail-gladdu o weddillion Evan a'i wraig wrth droed y Gofgolofn Genedlaethol.

Llawysgrif Hen Wlad fy Nhadau

Copi o'r Llawysgrif gwreiddiol gyda chaiatâd Llyfrgell Genedlaethol Cymru

 

Cymraeg MorgannwgMentrau